Adam Price AS
Cwestiynau Seneddol
Edrychwch ar yr holl eitemau a lefarwyd gan Adam gan gynnwys Cwestiynau Seneddol (a'r atebion) ar www.theyworkforyou.com
Gellir archwilio Hansard yn fanwl trwy droi at wefan y Senedd
Mae cwestiynau seneddol (PQs) yn ddulliau a ddefnyddir gan Aelodau Seneddol i geisio gwybodaeth neu i bwyso am weithredu. Gall ASau ofyn cwestiynau i'r Llywodraeth a atebir yn bersonol gan Weinidog (Cwestiynau Llafar) neu'n ysgrifenedig (Cwestiynau Ysgrifenedig). Maent yn gorfodi Gweinidogion i esbonio ac amddiffyn gwaith, penderfyniadau polisi a chamau gweithredu eu hadrannau.
Cofnodir pob cwestiwn, os cânt eu trawsgrifio o'r Siambr neu eu cofnodi mewn print, yn yr Adroddiad Swyddogol (Hansard), felly maent ar gael yn eang ac mae modd troi atynt.
Ceir pedwar categori o gwestiwn yn Nhŷ'r Cyffredin:
- Cwestiynau ar gyfer Ateb Llafar (Cwestiynau Llafar neu OPQs)
- Cwestiynau Brys
- Cwestiynau trawsbynciol
- Cwestiynau ar gyfer Ateb Ysgrifenedig (Cwestiynau Ysgrifenedig neu WPQs)
O'r 40,000 o gwestiynau a ofynnir bob blwyddyn, dim ond oddeutu 3,000 ohonynt sy'n gwestiynau llafar a atebir gan Weinidog yn y Siambr. Gellir lawrlwytho taflen ffeithiau ynghylch PQs ar ffurf PDF ar wefan y Senedd.

