Adam Price AS
Cafodd y dudalen hon ei ddiweddaru ar Thursday, 08 November 2007
Datganiad Hygyrchedd
""Mae pðer y We yn ymwneud â'i gyffredinolrwydd. Mae sicrhau bod pawb yn gallu manteisio arno, beth bynnag yw eu hanabledd, yn agwedd hanfodol."
Tim Berners-Lee, Cyfarwyddwr W3C a dyfeisiwr y We Fyd Eang
Bysellau cyrchu:
Mae mwyafrif y porwyr yn eich galluogi i droi at gysylltiadau penodol trwy deipio bysellau a ddiffinnir ar y wefan. Yn Windows, gallwch bwyso ALT + bysell gyrchu; ar Macintosh, gallwch bwyso Control + bysell gyrchu.
Mae'r holl dudalennau ar y safle hwn yn diffinio'r bysellau cyrchu canlynol:
- Bysell gyrchu 1 - Hafan
- Bysell gyrchu 4 - Chwilio
- Bysell gyrchu 7 - Polisi Preifatrwydd
- Bysell gyrchu 8 - Amodau Defnyddio
- Bysell gyrchu 9 - Cysylltu â Mi
- Bysell gyrchu 0 - Datganiad hygyrchedd
Cyflwyniad Gweledol
- Mae'r safle hwn yn defnyddio Taflenni Arddull Rhaeadrol (CSS) er mwyn eich galluogi i addasu'r cyflwyniad i fod yn briodol i'ch dewisiadau.
- Mae maint y testun yn gymharol, ac yn eich galluogi i addasu maint y testun yn eich porwr.
Cydymffurfio â Safonau
- Mae'r safle hwn yn defnyddio 'XHTML Strict' dilys
- Mae'r safle hwn yn cydymffurfio â WCAG 1.0 AA, ac mae'n cydymffurfio â Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd y DU
Cymhorthion Gwe-lywio
- Mae pob tudalen yn cynnwys cysylltiadau cymharol priodol i ddarparu gwe-lywio ychwanegol
- Mae'r holl dudalennau yn cynnwys map o'r safle
- Mae'r holl dudalennau yn cynnwys cyfleuster chwilio
