Adam Price AS
Ynghylch Etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr

O 'Wales Year Book' gyda chaniatâd Dr Dennis Balsom
Cafodd Etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ei ffurfio pan rhanodd y Comisiwn Ffiniau hen Sir Gaerfyrddin yn ddwy. Etholaeth a chanddi hanes gwleidyddol lliwgar. Ymhlith y gwleidyddion a fu'n Aelodau Seneddol yno roedd y fonesig Megan Lloyd George a'r Aelod Seneddol Cenedlaetholgar cyntaf; Gwynfor Evans. Mae poblogaeth wledig helaeth yn dal i fod yn ran o'r rhaniad dwyreiniol newydd ond mae rhannau o Ddyffryn Aman, ardal lofaol wedi eu hychwanegu yn ogystal. Dyma greu sefyllfa wleidyddol ddwysach.
Yn ystod Etholiad 2001 cafwyd brwydr ffyrnig rhwng Adam Price, un o ymgeisyddion mwyaf ifanc a disglair Plaid Cymru ac Alan Williams, yr Aelod Seneddol a oedd yno yn gynt. Bu'r gystadleuaeth rhyngddynt yn fodd o oresgyn ymdeimlad o apathi cyffredinol ac fe gyfrifwyd cymaint o bledleisau fel y bu'r cyfri gyda'r trydydd uchaf yng Nghymru. Etholwyd Adam Price, yn Aelod Seneddol.
Enillodd Plaid Cymru sedd y Cynulliad yn 1999 gyda Rhodri Glyn Thomas Aelod Cynulliad yn ail-ennill y sedd ac fe gadwodd ei sedd yn gyfforddus yn 2003. Unwaith yn rhagor, bu dwyster yr ornest yn gyfrifol am y nifer uchaf o bledleiswyr yn yr etholiad.
Archwilio Etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
Gallwch ddefnyddio'r dulliau rheoli ar y map isod i symud ffocws y map neu i chwyddo mewn neu chwyddo allan ohono. Neu, gallwch bwyso botwm chwith eich llygoden a thynnu'r map i'r rhan yr hoffech ei weld.
Adrannau etholiadol Sir Gaerfyrddin: (52,741)
Abergwili, Rhydaman, Y Betws, Cenarth, Cil-y-cwm, Cynwyl Gaeo, Garnant, Glanaman, Gorslas, Llanddarog, Llandeilo, Llanymddyfri, Llandybïe, Llanegwad, Llanfihangel Aberbythych, Llanfihangel-ar-arth, Llangadog, Llangeler, Llangynnwr, Llangyndeyrn, Llanybydder, Manordeilo a Salem, Pen-y-groes, Pontaman, Cwarter Bach, Llanismel, Saron.
Etholiad Cyffredinol 2005
| Candidate | Party | Votes | % | |
|---|---|---|---|---|
| Adam Price | Plaid Cymru | 17,561 | 45.9 | +3.5 |
| Ross Hendry | Plaid Lafur | 10,843 | 28.3 | -7.3 |
| Suzy Davies | Y Blaid Geidwadol | 5,235 | 13.7 | +0.8 |
| Julianna Hughes | Liberal Democrats | 3,719 | 9.7 | +2.3 |
| Mike Squires | UK Independence Party | 661 | 1.7 | 0.0 |
| Sid Whitworth | Legalise Cannabis Alliance | 272 | 0.7 | 0.7 |
| Mwyafrif PC | 6,718 | 17.5 | ||
| Diffodd | 38,291 | 71.6 | +1.2 |
Etholiad Cyffredinol 2001
| Adam Price | Plaid Cymru | 16,130 | 42.35 % |
| Dr Alan Williams | Plaid Lafur | 13,540 | 35.55 % |
| David Thomas | Y Blaid Geidwadol | 4,912 | 12.90 % |
| Dorian Evans | Y Democratiaid Rhyddfrydol | 2,850 | 7.48 % |
| Mike Squires | UKIP | 656 | 1.72 % |
| Mwyafrif PC | 2,590 |
Etholiad Cyffredinol 1997 (hen ffiniau)
| Williams, A. | Plaid Lafur | 17,907 | 42.91 % |
| Thomas, R. | Plaid Cymru | 14,457 | 34.64 % |
| Hayward, E. | Y Blaid Geidwadol | 5,022 | 12.03 % |
| Hughes, J. | Y Democratiaid Rhyddfrydol | 3,150 | 7.55 % |
| Humphries-Evans, I. | Plaid y Refferendwm | 1,196 | 2.87 % |
| Mwyafrif Lafur | 3,450 |

