Adam Price AS
Bywgraffiad

Enillodd Adam sedd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn 2001, un o'r 8 sedd a enillwyd gan Llafur yn yr etholiad cyffredinol diwethaf. Fel cyn gyfarwyddwr cwmni economeg a gynigai wasanaeth ymgynghorol, mae Adam yn cynrychioli Plaid Cymru yn San Steffan gan gymryd cyfrifoldeb dros faterion y trysorlys, diwydiant a masnach. Yn 2002 enillodd wobr ymchwiliwr seneddol y flwyddyn, gan gylchgrawn y Spectator oherwydd iddo ddod â llythyr i'r amlwg gan y Prif Weinidog at y prif weinidog yn Romania ar ran rhoddwr i Lafur; Lakshmi Mittal.
Yn 2003 datguddiodd fesur Ewropeaidd ugain mlwydd oed a ddaeth yn sail gadarn i herio'r llywodraeth gan weithwyr Allied Steel and Wire wedi iddynt golli eu pensiynau. Mae Adam wedi arwain yr ymgyrch ynghylch camdriniaeth Ira ac yn ddiweddar iawn galwodd ar i'r Prif Weinidog gael ei uchel gyhuddo yn dilyn ei ymddygiad yng nghyd-destun y rhyfel yn Ira.
Ymysg ymgyrchoedd pwysig sydd o ddiddordeb lleol y mae parhau i ymladd dros gyfiawnder pensiwn y glowyr a iawndal y glowyr; y problemau a gyfyd oherwydd awyrennau hedfan isel; diogelu gwasanaethau cyhoeddus lleol, gan gynnwys ysgolion gwledig, darpariaeth ddeintyddol y gwasanaeth iechyd, gwasanaethau ysbytai, is-swyddfeydd post a swyddfeydd budd-daliadau; ynghyd â'r angen gwirioneddol am bolisi economaidd rhanbarthol a diwygio fformiwla Barnett.
